Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2019
Amser:
09.30 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5694
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC |
Tystion: |
Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Karen Cornish, Llywodraeth Cymru David Pearce, Llywodraeth Cymru Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau; ni chafwyd ymddiheuriadau.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi manylion am y nifer o Weinidogion Cymru sydd wedi cael hyfforddiant penodol i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldeb cyfreithiol i roi 'sylw dyledus' i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau yn eu portffolios.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Comisiynydd Plant Cymru ynglŷn â’i hadroddiad blynyddol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda’r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau Teithio gan Ddysgwyr ar ei newydd wedd.
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.1 Derbyniwyd y cynnig
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth.
7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth.
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb. Cytunodd yr Aelodau:
· y byddai amser yn cael ei neilltuo mewn cyfarfod yn y dyfodol i drafod yr ymateb a chamau nesaf y Pwyllgor yn fanylach;
· i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi gwybod i’r Gweinidogion perthnasol am y bwriad hwn.